Neidio i'r cynnwys
SAFON CALON

Gwaith wedi'i wneud yn iawn. Pobl wedi'u trin yn iawn.

Mae enw Calon yn dweud llawer am yr hyn sy'n bwysig i ni. Ac i ni, mae'n golygu mwy na bwriadau da.

Mae'n golygu malio digon i wneud pethau'n iawn. Ymfalchïo yn y manylion lleiaf. Cadw at ein gair a thrin pobl â'r un parch ag y byddem ni'n ei ddisgwyl.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad ar y cyd, rydyn ni'n deall nad addewidion mawr sy'n creu safonau uchel. Y pethau bob dydd, sy'n cael eu gwneud yn gyson a chyda gofal, sy'n gwneud hynny.

Safon Calon yw ein hymrwymiad i wneud y peth iawn dros y bobl a'r llefydd sy'n ymddiried ynom.

Gofal. Balchder. Cyfrifoldeb.

Balchder yn y Manylion

Nid pethau bach yn unig yw'r manylion.

Mynedfa lân. Toiledau sydd wedi cael gofal priodol. Gweithle sy'n barod ar gyfer y bobl sy'n cyrraedd yn y bore.

Mae'r pethau hyn yn bwysig.

Rydyn ni'n ymfalchïo cymaint yn y gwaith rheolaidd ag yn y pethau mae pawb yn sylwi arnyn nhw. Rydyn ni'n rhoi sylw i'r manylion, yn parchu'r llefydd sydd dan ein gofal ac yn cymryd cyfrifoldeb am safon ein gwaith.

Oherwydd yn aml, y manylion sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng gwneud gwaith a'i wneud yn dda.

Ac mae'n werth gwneud y manylion hynny'n iawn.

Cwmni y Gallwch Ddibynnu Arno

Mae ymddiriedaeth yn cael ei hennill drwy ein gweithredoedd.

Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw cael pobl o'ch cwmpas sy'n gwneud yr hyn maen nhw'n addo ei wneud.

Pan fyddwn yn ymrwymo i rywbeth, rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif.

Rydyn ni'n cytuno ar ddisgwyliadau clir, yn cyfathrebu'n agored ac yn cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu. Os nad yw rhywbeth yn iawn, dydyn ni ddim yn gwneud esgusodion. Rydyn ni'n ei gywiro.

Mae'r un agwedd onest a syml wrth wraidd pob perthynas rydyn ni'n ei meithrin.

Rydyn ni am i'n cwsmeriaid fod yn hyderus wrth adael pethau yn ein dwylo, gan wybod y bydd eu safleoedd a'r bobl sy'n eu defnyddio yn cael eu trin â gofal a pharch.

Safonau proffesiynol. Tawelwch meddwl.

Rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb o ofalu am weithle rhywun o ddifrif.

Mae gennym yswiriant llawn ar gyfer y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu, ac mae ein dull o sicrhau diogelwch yn cynnwys asesiadau risg priodol, gweithdrefnau gweithio diogel a hyfforddiant COSHH.

Rydyn ni'n cynnal gwiriadau gofalus ar y bobl sy'n cynrychioli Calon, ac yn deall pwysigrwydd mynediad diogel, cyfrinachedd a pharch at eiddo ein cwsmeriaid.

Oherwydd nid rhywbeth rydyn ni'n disgwyl ei gael yn awtomatig yw ymddiriedaeth. Ein cyfrifoldeb ni yw ei hennill a'i chadw.

Teulu Calon

Mae'r gofal yn mynd y ddwy ffordd.

Mae'r bobl sy'n cynrychioli Calon wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.

Rydyn ni'n disgwyl ymroddiad, balchder a gofal gwirioneddol gan bawb sy'n cynrychioli ein henw. Rydyn ni'n gosod safonau uchel oherwydd bod y gwaith yn bwysig, ac oherwydd bod ein cwsmeriaid yn ymddiried ynom.

Ond mae'r disgwyliadau hynny'n dod â chyfrifoldebau i ni hefyd.

Mae ein pobl yn haeddu parch, triniaeth deg, cefnogaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith. Maen nhw'n haeddu cael rhywun i wrando arnyn nhw, gwerthfawrogi eu cyfraniad a'u trin fel unigolion.

Rydyn ni am i bobl ymfalchïo mewn bod yn rhan o Calon, gofalu am ei gilydd a rhannu'r boddhad o wneud gwaith da.

Mae gwaith da yn haeddu cydnabyddiaeth. Ac mae'r bobl sy'n ei wneud yn haeddu gofal.

Mae Safon Calon yr un mor berthnasol i'r ffordd rydyn ni'n trin ein pobl ag i'r gwaith rydyn ni'n ei gyflawni.

Balch o'n Gwreiddiau

Yn rhan o'r cymunedau rydyn ni'n eu galw'n gartref.

Mae ein gwreiddiau'n ddwfn yng Ngogledd Cymru, ac rydyn ni'n falch o'r bobl, yr iaith a'r cymunedau sy'n rhoi eu cymeriad arbennig i'r ardal hon.

Dylai busnes da gyfrannu rhywbeth cadarnhaol at y llefydd mae'n eu gwasanaethu.

I ni, mae hynny'n golygu creu cyfleoedd ystyrlon i bobl leol, cefnogi ein cymunedau a pharchu'r Gymraeg a'r bobl sy'n ei siarad.

Mae hefyd yn golygu cydnabod ein cyfrifoldebau tuag at yr amgylchedd o'n cwmpas a gwneud dewisiadau gofalus ynglŷn â'n ffordd o weithio.

Rydyn ni am i enw Calon gynrychioli rhywbeth cadarnhaol, nid yn unig yn yr adeiladau sydd dan ein gofal, ond yn y cymunedau y tu hwnt iddyn nhw hefyd.

Y Safon Rydyn Ni'n Sefyll Drosti

Mwy na gwasanaeth. Perthynas wedi'i seilio ar ymddiriedaeth.

Mae pob gweithle sydd dan ein gofal yn rhan o fywyd gwaith rhywun. Mae pob contract yn cynrychioli cyfrifoldeb. Ac mae pob person rydyn ni'n ei gyfarfod yn haeddu cael ei drin yn iawn.

Dydyn ni ddim yn cymryd dim o hynny'n ysgafn.

Mae Safon Calon yn dod â'r gofal, y balchder a'r cyfrifoldeb sy'n llywio ein gwaith, ein perthnasoedd a'r ffordd rydyn ni'n trin pobl ynghyd.

Dyma'r safon rydyn ni'n ei gosod i ni ein hunain.

A dyma'r safon y dylai ein cwsmeriaid ei disgwyl gennym.