Neidio i'r cynnwys
EIN CYFRIFOLDEB

Nid yw'r gofal yn gorffen wrth y drws ffrynt.

Mae'r llefydd rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw yn rhan o rywbeth mwy. Maen nhw'n rhan o gymunedau, bywoliaeth pobl a'r amgylchedd rydyn ni i gyd yn ei rannu.

Yng Nghalon, rydyn ni'n cydnabod bod ein cyfrifoldeb yn ymestyn ymhellach na'r adeiladau rydyn ni'n cael ein hymddiried i'w glanhau.

Mae'n dylanwadu ar ein ffordd o weithio, y dewisiadau rydyn ni'n eu gwneud, y ffordd rydyn ni'n trin pobl a sut rydyn ni'n cyfrannu at y byd o'n cwmpas.

Mae gofalu am bethau'n iawn yn golygu ystyried yr effaith rydyn ni'n ei gadael ar ein hôl.

A chymryd cyfrifoldeb amdani.

Gofalu am Ein Hamgylchedd

Nid yw bwriadau da'n ddigon heb weithredu gofalus.

Mae'r cynhyrchion rydyn ni'n eu dewis, y dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio, y gwastraff rydyn ni'n ei greu a'r teithiau rydyn ni'n eu gwneud i gyd yn cael effaith ar yr amgylchedd.

Rydyn ni'n cymryd hynny o ddifrif.

Ein nod yw defnyddio adnoddau'n ofalus, osgoi gwastraff diangen a gwneud dewisiadau ystyriol ynglŷn â'r deunyddiau a'r dulliau rydyn ni'n eu defnyddio.

Rydyn ni'n ffafrio offer y gellir eu hailddefnyddio a chynhyrchion glanhau crynodedig lle bo hynny'n addas, gan roi sylw i ddefnyddio'r swm cywir a dim mwy nag sydd ei angen ar gyfer y gwaith.

Mae glanhau effeithiol ac arferion gweithio diogel yn hanfodol. Dylai cyfrifoldeb amgylcheddol gryfhau'r safonau hynny, nid eu peryglu.

Mae'n golygu gwneud y gwaith yn iawn, gan gofio'r byd o'n cwmpas.

Mae Pob Dewis yn Cyfrif

Penderfyniadau bach. Gwahaniaeth parhaol.

Mae cyfrifoldeb i'w weld yn y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud bob dydd.

Defnyddio'r swm cywir o gynnyrch. Gofalu am offer er mwyn iddo bara. Osgoi teithiau diangen. Meddwl yn ofalus cyn taflu rhywbeth.

Does dim rhaid i'r dewisiadau hyn fod yn rhai mawr. Eu gwneud yn gyson sy'n rhoi gwerth iddyn nhw.

Rydyn ni'n chwilio am gyfleoedd ymarferol i leihau gwastraff, defnyddio adnoddau'n effeithlon a gwella effaith amgylcheddol ein gwaith.

Ar gyfer cwsmeriaid sydd â gofynion cynaliadwyedd penodol, gallwn gytuno ar fesurau perthnasol fel rhan o'u trefniadau glanhau, gan helpu i fonitro'r defnydd o adnoddau, nodi gwelliannau a darparu gwybodaeth ystyrlon am y ffordd y gofelir am eu safleoedd.

Byddai'n well gennym ddangos cynnydd drwy weithredu ymarferol na gwneud addewidion na allwn eu cadarnhau.

Gofalu am Ein Pobl

Ni ddylai parch fyth fod yn ôl-ystyriaeth.

Mae ein pobl wrth wraidd y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu, ac mae'r ffordd rydyn ni'n eu trin yn adlewyrchu'r math o gwmni ydyn ni.

Rydyn ni'n disgwyl ymroddiad, dibynadwyedd a balchder mewn gwaith sydd wedi'i wneud yn dda. Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni'n cydnabod ein cyfrifoldeb i sicrhau triniaeth deg, cefnogaeth, arferion gweithio diogel ac amgylchedd lle mae gwaith caled yn cael ei werthfawrogi.

Mae creu cyfleoedd gwaith ystyrlon i bobl leol yn rhan bwysig o bwrpas Calon.

Rydyn ni am i'r bobl sy'n cynrychioli Calon gael eu parchu, eu cefnogi ac ymfalchïo yn y safonau maen nhw'n eu cynnal.

Oherwydd rhaid i gwmni sy'n malio am ei waith hefyd falio am y bobl sy'n ei wneud.

Ein Cymunedau

Balch o'n gwreiddiau.

Mae Gogledd Cymru'n fwy na'r ardal rydyn ni'n ei gwasanaethu. Dyma ein cartref.

Mae ein cymunedau, ein hiaith a'r bobl o'n cwmpas yn rhan bwysig o hunaniaeth Calon.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi perthnasoedd lleol, cyfleoedd i bobl leol a gweithio gyda chyflenwyr a busnesau yn ein cymunedau lle bynnag y bo hynny'n ymarferol.

Rydyn ni'n falch o ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, gan gydnabod pa mor bwysig yw rhoi'r dewis i bobl gyfathrebu yn yr iaith maen nhw'n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

Dylai busnes da gyfrannu'n gadarnhaol at y llefydd mae'n gweithredu ynddyn nhw.

I ni, mae hynny'n dechrau drwy drin pobl yn dda, cefnogi cyfleoedd lleol a bod yn gwmni y gall ein cymunedau fod yn falch ohono.

Cymryd Cyfrifoldeb

Gwneud y peth iawn. A gallu sefyll drosto.

Mae cyfrifoldeb yn golygu bod yn barod i edrych yn ofalus ar ein ffordd o weithio.

Mae'n golygu gwrando, adolygu ein harferion, cydnabod lle gellir gwella a chymryd camau ystyrlon i wneud hynny.

Rydyn ni am i'n cwsmeriaid wybod ein bod yn cymryd y cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â'u trefniadau glanhau o ddifrif.

Mae hynny'n golygu cyfathrebu'n onest, gwneud ymrwymiadau ymarferol a bod yn barod i ddangos y camau rydyn ni'n eu cymryd.

Dydyn ni ddim yn credu mewn gwneud addewidion dim ond er mwyn edrych yn dda ar bapur.

Rydyn ni'n credu mewn gwneud pethau'n iawn, trin pobl yn deg a gofalu am y llefydd a'r cymunedau rydyn ni'n eu rhannu.

Dyna ran o Safon Calon.