Neidio i'r cynnwys
Glanhau Masnachol · Gogledd Cymru

Rydyn ni'n gofalu am fwy nag adeiladau.

Y tu ôl i bob gweithle mae pobl. Pobl sy'n gweithio'n galed, sy'n ymfalchïo yn yr hyn maen nhw'n ei wneud ac sy'n malio am y llefydd maen nhw wedi'u creu.

Rydyn ni'n credu bod y bobl hynny'n haeddu'r un gofal yn ôl.

Yng Nghalon, mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad ar y cyd ym maes glanhau masnachol, ac rydyn ni'n rhoi ein calon ym mhob tasg. Rydyn ni'n ymfalchïo yn y manylion, yn cymryd cyfrifoldeb am ein gwaith ac yn trin pob lle sydd dan ein gofal â pharch.

Safon Calon. Gofal. Balchder. Cyfrifoldeb.

Safon Calon

Mae ein gair yn bwysig.

Dylai glanhau fod yn un peth yn llai i chi boeni amdano.

Rydyn ni'n cytuno ar beth sydd ei angen, yn cyrraedd yn ôl y trefniant ac yn cymryd cyfrifoldeb am ein gwaith. Os nad yw rhywbeth yn iawn, rydyn ni'n ei gywiro.

Dyna Safon Calon. Gofal yn y manylion. Balchder yn y gwaith. Cyfrifoldeb am wneud pethau'n iawn.

Nid ar y diwrnod cyntaf yn unig, ond bob dydd.

Ein Gwasanaethau

Eich lle chi. Eich pobl chi. Eich ffordd chi o weithio.

Mae gan bob gweithle ei drefn, ei ofynion a'i ddisgwyliadau ei hun.

O swyddfeydd a siopau annibynnol i safleoedd lletygarwch a mannau masnachol a rennir, rydyn ni'n darparu gwasanaethau glanhau proffesiynol sy'n gweddu i'r bobl a'r llefydd sydd dan ein gofal.

Rydyn ni'n cymryd yr amser i ddeall eich safle, cytuno ar amserlen lanhau ymarferol a darparu'r gofal bob dydd y mae eich gweithle'n ei haeddu.

Disgwyliadau clir. Gwasanaeth dibynadwy. Safonau uchel.

Ein Pobl a'n Cymunedau

Mae'r gwaith yn bwysig. A'r bobl sy'n ei wneud hefyd.

Rydyn ni'n rhoi ein calon yn ein gwaith, ac yn disgwyl yr un gofal, ymroddiad a balchder gan bawb sy'n cynrychioli Calon.

Mae'r ymrwymiad hwnnw'n mynd y ddwy ffordd.

Mae gwaith caled yn haeddu cydnabyddiaeth. Mae pobl yn haeddu parch, triniaeth deg a chefnogaeth. Rydyn ni am i Calon fod yn lle lle mae gwaith da'n cael ei werthfawrogi, a lle mae pobl yn gofalu am ei gilydd.

Mae ein gwreiddiau yng Ngogledd Cymru. Mae creu cyfleoedd i bobl leol, parchu iaith a chymeriad ein cymunedau, a chyfrannu at y llefydd rydyn ni'n eu galw'n gartref yn rhan o'r hyn rydyn ni'n sefyll drosto.

Oherwydd mae'r ffordd rydyn ni'n trin pobl yr un mor bwysig â'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.

Ein Cyfrifoldeb

Nid yw'r gofal yn gorffen wrth y drws ffrynt.

Mae gofalu am le yn golygu meddwl y tu hwnt i'w furiau.

O'r cynhyrchion rydyn ni'n eu dewis a'r adnoddau rydyn ni'n eu defnyddio i'r gwastraff rydyn ni'n ei greu a'r teithiau rydyn ni'n eu gwneud, mae ein gwaith yn cael effaith.

Rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.

Rydyn ni'n ffafrio arferion gweithio ystyriol, defnyddio adnoddau'n ofalus a deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio lle bo hynny'n ymarferol. Rydyn ni'n chwilio am ffyrdd o leihau gwastraff a gwneud gwelliannau ystyrlon heb gyfaddawdu ar safon na diogelwch ein gwaith.

Oherwydd mae gofalu am ein hamgylchedd yn rhan o ofalu am y bobl sy'n ei rannu.

Dewch i Gael Sgwrs

Mae perthynas waith dda yn dechrau gyda sgwrs.

P'un a ydych chi'n chwilio am wasanaeth glanhau masnachol rheolaidd, yn adolygu eich trefniadau presennol neu'n ystyried eich opsiynau, byddai'n bleser clywed gennych.

Dywedwch wrthym am eich safle a'r hyn sy'n bwysig i chi.

Byddwn yn gwrando, yn trafod eich anghenion ac yn eich helpu i ddod o hyd i drefniant sy'n gweithio i'ch busnes.

Yn syml, yn bersonol ac yn broffesiynol. Fel y dylai fod.

Calon — Glanhau Masnachol. Yn falch o wasanaethu Gogledd Cymru.